The Royal Mint Experience

Darganfyddwch ryfeddod annisgwyl y ceiniogau 

Beth a olygwn wrth ‘dylunio darnau arian’?
Pam fod darnau arian o wahanol liwiau, siapiau a meintiau?
Pwy sy’n dylunio darnau arian – a sut?
Beth yw drwgfathu?
Sut mae’r Royal Mint yn defnyddio technoleg arloesol i gadw darnau arian yn ddiogel nawr ac i’r dyfodol?

Cynigia ymweliadau â’r Royal Mint gyfoeth o gyfleoedd dysgu i’ch disgyblion. Yn ogystal â’r arddangosfa a thaith y ffatri, cynigiwn weithdai llawn hwyl ac atyniadol i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2, 7-11 oed.

Ymweliadau gan ysgolion cynradd

I gael gwybodaeth am ymweliadau gan ysgolion cynradd, edrychwch ar ein taflen.

The Royal Mint Experience – Ysgolion Cynradd

Gwybodaeth cyn ymweliad i ysgolion cynradd – Edwards.pdf 

Gwybodaeth cyn ymweliad i ysgolion cynradd – teithio’ch hun.pdf

Adnodd ar ôl yr ymweliad ar gyfer y gweithdy Arian Ffug

Adnodd ar ôl ymweliad ar gyfer y gweithdy Dylunydd Darnau Arian

 

school visits

Ymweliadau gan ysgolion uwchradd

Mae croeso i grwpiau o ysgolion uwchradd yn The Royal Mint Visitor Experience, y lle delfrydol i archwilio sawl agwedd ar beirianneg, technoleg dylunio, celf, hanes, busnes a diwylliant.

Beth am ddefnyddio ap fel Socrative i greu llwybr cwis wedi’i deilwra i’ch disgyblion y gallant ei gwblhau ar eu ffordd o gwmpas yr arddangosfa?

I gael gwybodaeth am ymweliadau gan ysgolion uwchradd, edrychwch ar ein taflen fan hyn.
 4258 RM Secondary School Flyer 1g.pdf

 school tour

Adnoddau cefnogol

Adnoddau eraill

Mae Amgueddfa The Royal Mint yn darparu adnoddau dysgu ychwanegol ar ei wefan a thrwy’r Times Educational Supplement (TES) ar-lein.

http://www.royalmintmuseum.org.uk/education-and-learning/index.html

https://www.tes.com/member/RoyalMintMuseum

Cyfleusterau 

Mae’r Royal Mint Visitor Experience yn darparu’r cyfleusterau canlynol i grwpiau ysgol

  • Cyfraddau grwpiau
  • Hyblygrwydd a dewis o amserau taith y ffatri a mynediad i’r arddangosfa
  • Parcio am ddim
  • Caffi sy’n gweini bwyd a diodydd poeth ac oer
  • Siop

Sylwch na allwn storio niferoedd mawr o fagiau ac fe’ch anogwn i gadw’r rhain ar y bws, ond mae cypyrddau clo bach cyhoeddus ar gael ar gyfer nwyddau gwerthfawr.

Gwybodaeth am gadw lle

Er mwyn trefnu’ch ymweliad, ffoniwch: 0333 241 2223

schools@royalmint.com

Nesaf >> Sut i ddod o hyd i ni

logo

Feefo logo