Strike Your Own Coin

Bathu Darn o Athrylith – Fersiwn Gyfyngedig o Ddarn 50c Syr Isaac Newton 2018

Ni fyddai ymweliad â’r Royal Mint yn gyflawn heb i chi fathu’ch darn arian eich hun i gofio am eich ymweliad.

Gallwch fathu’ch darn 50c 2018 eich hun am gyfnod cyfyngedig – darn sy’n dathlu gwaith Syr Isaac Newton.   Mae’r darn 50c 2018, sydd wedi’i orffen i safon Heb ei Ddosbarthu Gwych, yn unigryw i’r Royal Mint Experience ac ni fydd yn cael ei ryddhau at ddibenion dosbarthiad cyffredinol.

die

Syr Isaac Newton oedd cawr deallusol mawr ‘Chwyldro Gwyddonol’ yr ail ganrif ar bymtheg. Efallai ei fod yn cael ei adnabod orau heddiw am ei waith ar ddisgyrchiant, ar ôl iddo gael ei ysbrydoli o weld afal yn cwympo oddi ar goeden, ond newidiodd ei athrylith ein dealltwriaeth o fathemateg a ffiseg ac fe lwyddodd i ailddiffinio’r byd modern.

Yn ogystal, mwynhaodd Newton gysylltiad hir gyda’r Royal Mint ac o fathu’r darn arian hwn, byddwch chi’n dilyn yn olion traed ‘Meistr y Bathdy’ enwocaf a helpodd wneud ein harian bath yn destun cenfigen o amgylch y byd.

Mae hwn ond ar gael am gyfnod cyfyngedig ac mae’n amodol ar argaeledd. Archebwch docynnau heddiw.

newton

Ewch y tu ôl i’r llenni ym mhrif fathdy allforio’r byd i ddilyn taith darn arian, o ddarn gwag i’r banc.

 

Archebwch docynnau nawr

Ewch y tu ôl i’r llenni ym mhrif fathdy allforio’r byd i ddilyn taith darn arian, o ddarn gwag i’r banc.

 

Archebwch docynnau nawr

Feefo logo