Teithiau i Bobl Bwysig Iawn
Gwybodaeth Cyn Cyrraedd i Ymwelwyr
Croeso i’r Royal Mint Experience. Rydym am i chi gadw’n ddiogel yn ystod eich ymweliad, felly dilynwch y canllawiau isod.
- Bydd angen i chi lenwi Holiadur Iechyd cyn cyrraedd (bydd angen i bob aelod o’ch grŵp lenwi un). Mae’r teithiau’n golygu cryn dipyn o gerdded a sefyll, felly bydd angen i chi fod yn gorfforol iach i ymgymryd â hi. Os oes gennych reoliadur y galon wedi’i ffitio, bydd angen i chi roi gwybod i ni oherwydd mae amleddau magnetig ar waith mewn rhai o’r ardaloedd y gallech ymweld â nhw. Os oes gennych alergedd i gnau, bydd angen i chi roi gwybod i ni oherwydd defnyddir cnau mewn prosesau y gallech ddod ar eu traws. Rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn i fynychu’r teithiau i bobl bwysig iawn. Bydd angen ichi hefyd ddangos prawf adnabod ffotograffig ar eich ymweliad. Mae angen i bob aelod o’ch grŵp ddod â phrawf adnabod ffotograffig a bod yn 16 oed neu’n hŷn.
- Bydd gofyn ichi wisgo dillad diogelu personol ar eich taith i bobl bwysig iawn a bydd y rhain yn cael eu darparu ar eich cyfer. Gallai hyn gynnwys festiau llachar, diogelwch i’r llygaid, diogelwch i’r clustiau ac esgidiau diogelwch. Sylwch y bydd angen ichi wisgo esgidiau fflat sy’n gorchuddio bysedd y traed.
- Cyn cyrraedd, sylwch na fydd darnau arian, deunyddiau ysmygu, camerâu, dyfeisiau electronig, dyfeisiau storio, ffonau symudol, dyfeisiau symudol a gliniaduron yn cael eu caniatáu i’r brif safle. Fe’ch cynghorwn i beidio dod â’r rhain. Bydd y deunyddiau hyn yn cael eu caniatáu yn adeilad y Royal Mint Experience yn unig.
- Tra byddwch chi yn y maes parcio ac ar y safle, defnyddiwch y llwybrau wedi’u marcio i gerddwyr a’r croesfannau sebra drwy’r amser a byddwch yn ymwybodol o weithgarwch gan gerbydau ar y safle sy’n cynnwys wagenni fforch godi.
- Pan gyrhaeddwch y safle, ewch i The Royal Mint Experience.
- Bydd aelod o’r tîm yn eich cyfarch ac yn eich cyfeirio at yr ardal groeso am luniaeth.
- Bydd angen ichi ddangos dull adnabod ffotograffig a llenwi Holiadur Iechyd.
- Byddwch yn cael clywed cyfarwyddyd ar Ddiogelwch, ac yn cael cerdyn diogelwch. Bydd angen gwisgo hwn drwy’r amser. Disgwyliwch gael eich herio os na fyddwch yn gwisgo’ch cerdyn.
- Gofynnir i chi a oes gennych unrhyw un o’r eitemau gwaharddedig uchod. Fe’ch cynghorwn i beidio dod â’r rhain ond mae modd darparu cypyrddau clo. Fe’ch cynghorwn hefyd i beidio â dod â bagiau i’r safle. Bydd y rhain yn cael eu chwilio, ac ni fyddant yn cael eu caniatáu i rai ardaloedd o’r daith.
- Bydd rhywun yn eich tywys chi drwy’r amser yn ystod eich ymweliad, felly os oes gennych gwestiynau, neu os ydych chi’n ansicr ynghylch unrhyw beth, gofynnwch. Nid ydym am i chi gymryd unrhyw risg.
- Ystyriwch eich diogelwch eich hun drwy’r amser, ond os gwelwch unrhyw beryglon potensial yn ystod eich ymweliad, rhowch wybod i ni oherwydd bydd hyn yn helpu i atal damweiniau posibl.
- Cynhelir 2 brawf larwm bob wythnos am 10am ar ddydd Llun a 10am ar ddydd Gwener. Os bydd larwm yn canu unrhyw bryd arall, bydd eich Tywysydd yn mynd â chi i’r man ymgynnull priodol. Dilynwch eu cyfarwyddiadau.
- Os byddwch yn teimlo’n anhwylus neu’n cael damwain yn ystod eich ymweliad, dywedwch wrth Dywysydd eich Taith er mwyn i ni allu rhoi gofal priodol i chi.
Cofiwch fod The Royal Mint yn safle diogelwch uchel ac yn safle COMAH haen uchaf, sy’n golygu bod gennym botensial am beryglon damweiniau mawr a damweiniau mawr i’r amgylchedd. Rhaid cadw at y cyfarwyddiadau drwy’r amser.
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau’ch ymweliad.