Mwynhewch Barti fel y Brenhinoedd

Gwnewch yn Siŵr fod eu Parti Pen-blwydd yn Brofiad i’w Gofio

O gael parti pen-blwydd yn The Royal Mint Experience, byddwch yn archwilio straeon rhyfeddol y bobl a’r digwyddiadau y tu cefn i ddarnau arian y Deyrnas Unedig. Darganfyddwch yn union o ble mae’r arian yn eich poced, neu yn eich cadw-mi-gei yn dod mewn gwirionedd a gwrandewch ar ambell i hanesyn syfrdanol tra byddwch ar eich taith ddarganfod, dysgu a hwyl i bobl arbennig iawn.

Mwynhewch Barti fel y Brenhinoedd

Dewiswch thema frenhinol i’ch parti a byddwn ni’n cynnwys yr addurniadau ar gyfer eich ystafell barti breifat, yn ogystal â gemau parti, llwybrau a gweithgareddau llawn hwyl. Gallwch deithio drwy’r Royal Mint Experience, mwynhau’ch bwyd parti a chasglu’ch gwrthrychau ynghyd i gael eich ffotograff wedi’i dynnu gyda ffortiwn o aur.

Trefnwch eich Parti Pen-blwydd yn The Royal Mint Experience

Cynigia ein pecyn partïon pen-blwydd werth gwych am arian ac o gael rhywun arall i edrych ar ôl y mân bethau, gallwch chi fwynhau’r diwrnod arbennig. Caiff gwobrau i’r gwesteion ac anrhegion arbennig i’r bachgen neu’r ferch sy’n cael pen-blwydd eu cynnwys, ynghyd â mynediad i’r holl bethau sydd gan The Royal Mint Experience i’w gynnig ar gyfer taith ddarganfod, dysgu a hwyl i bobl bwysig iawn.

Mae ein Pecyn Partïon Pen-blwydd yn cynnwys:

  • Taith o’r Royal Mint Experience
  • Llwybrau teuluol gyda gwobrau ar ffurf bathodynnau ar gyfer llwybrau gorffenedig
  • Eich ystafell barti breifat eich hun
  • Bwyd parti sy’n cynnwys brechdan ham neu gaws, cacen fach a charton o sudd afal neu oren (mae modd uwchraddio i fwyd poeth am £3 y pen)
  • ‘Bathu Eich Darn Arian Eich Hun’ ar gyfer pob plentyn
  • ‘Ffotograff gyda Ffortiwn’ grŵp i’r un sy’n cael ei ben-blwydd/phen-blwydd
  • Gweithgaredd crefft gyda defnyddiau wedi’u darparu a darn arian enfawr o siocled i’r gweithgaredd gorau sy’n cael ei gwblhau.

Y cyfan am £15 y pen

Mae’r ffi o £15 y pen yn berthnasol i bob plentyn ac oedolyn sy’n mynychu’r parti. Mae angen i un oedolyn ddod gyda phob deg plentyn. Ar gyfer partïon gyda llai na deg plentyn, mae angen i o leiaf un oedolyn fynychu fesul parti.

Ewch ati i drefnu’ch parti –
E-bost venuehire@royalmint.com neu ffoniwch 0333 241 2223.

Am £3 ychwanegol y pen gallwch uwchraddio’ch bwyd parti...

Bwyd Poeth Dewis Un:
Byrgyr eidion neu fyrgyr cyw iâr mewn bynen
Sglodion
Ffa pob neu bys
Bar siocled neu fisged
Carton o sudd afal neu oren

Bwyd Poeth Dewis Dau:
Pizza
Sglodion
Ffa pob neu bys
Bar siocled neu fisged
Carton o sudd afal neu oren

Feefo logo