Cynnal eich profiad

Lawrlwythwch y llyfryn

Amrywiaeth o leoedd i’w llogi

spaces

Os ydych chi’n chwilio am le trawiadol i gynnal eich digwyddiad yn Ne Cymru, peidiwch ag edrych ymhellach na The Royal Mint Experience. Cynigia’n lleoliad unigryw a hawdd ei addasu, brofiad i’w gofio i bob ymwelydd, gydag amrywiaeth o ardaloedd i’w llogi.

Archwiliwch ein hardaloedd arddangos

area1

area2

area3

Crëwch brofiad sinema dros dro, i ymgolli ynddo yn eich digwyddiad yn The Hub – lleoliad gydag acwsteg wych a galluoedd sgrinio panoramig. Cynhaliwch ginio wrth fwrdd yn The Cafe, diddanwch hyd at 250 o bobl yn yr awyr agored yn y Piazza neu cynhaliwch gyfarfod preifat yn ein Hystafell Syr Isaac Newton heddychlon sy’n cynnwys sgrin 4K 3D integredig.

Yn swatio gerllaw’r lle arddangos, mae Ystafell Pistrucci sy’n agor ei drysau i westeion pwysig iawn - yno gellir eistedd wyth o westeion o gwmpas bwrdd ystafell bwrdd mawr. Cynhaliwch eich derbyniad diodydd hwyr gyda ni a gadewch i ni roi taith dywys o’r ffatri a’r arddangosfa i’ch gwesteion, lle byddant yn darganfod hanes y Royal Mint, yn cael cyfle i fathu eu darn arian eu hunain a hyd yn oed eistedd am lun gyda channoedd ar filoedd o bunnoedd.

map

Lleoedd amlbwrpas

space1

space2

space3

 

Darganfyddwch fwy

P’un a ydych yn cynnal diwrnod allan i’r tîm, cyfarfod preifat neu ddigwyddiad corfforaethol mawr, mae ein lleoedd amlbwrpas ar gael yn ystod y dydd a’r nos, o ddydd Llun i ddydd Sul. Oes angen brecwast, cinio neu swper ar eich gwesteion? Gall ein tîm arlwyo ar y safle gynnal ciniawau ffurfiol wrth y bwrdd, maldodi’ch gwesteion gyda champagne a chanapés neu ail-greu’r fwydlen ar gyfer achlysuron llai o faint.

Er mwyn dysgu mwy am greu digwyddiad wedi’i deilwra i’ch busnes yn The Royal Mint Experience,  lawrlwythwch y llyfryn  neu cysylltwch â’r tîm Llogi Corfforaethol:

venuehire@royalmint.com
Ffôn: 01443 623 831
Symudol: 07392 090 221
The Royal Mint
Llantrisant, Pontyclun, CF72 8YT

Feefo logo