Beth sydd yma?
Croeso a Chyn y Sioe
Wrth gyrraedd, bydd un o’n Gwesteiwyr yn eich cyfarch ac yn mynd â chi trwy’r archwiliadau diogelwch. Mae’ch profiad yn dechrau yn yr ardal Cyn y Sioe, lle byddwch yn cael cyflwyniad i’r Royal Mint cyn cerdded draw i brofiad y ffatri.
Profiad Ffatri Dan Arweiniad
Dan arweiniad eich Gwesteiwr Ymwelwyr, byddwch yn mynd i mewn i un o’r ardaloedd gweithgynhyrchu er mwyn darganfod sut caiff darnau gwag o fetel eu gwneud cyn iddynt gael eu bathu i ddod yn ddarnau arian. O ardal wylio, byddwch yn edrych i mewn i’r neuadd fathu lle caiff miloedd o ddarnau arian eu cynhyrchu, 24 awr y dydd. Wedyn, byddwch yn cael y dewis i fathu’ch darn arian eich hun i fynd adref gyda chi i gofio, neu i gael llun wedi’ch amgylchynu gan gistiau o arian (mae ffioedd ychwanegol yn berthnasol).
Arddangosfa Ryngweithiol
Yn dilyn Profiad y Ffatri, byddwch yn cael eich hebrwng i’r Arddangosfa Ryngweithiol hunan-dywys i archwilio chwe pharth gwahanol yn eich amser eich hun. Bydd y Gwesteiwyr wrth law; yn barod i ateb cwestiynau ac i’ch helpu chi i gael y mwyaf o’ch ymweliad.
Y parthau:
Y Royal Mint a’r gymuned
Ewch yn ôl dros 1,000 o flynyddoedd i archwilio tarddiad y Royal Mint, ei gysylltiadau â Thŵr Llundain a’i symud i Gymru.
Y Royal Mint a’r byd
Darganfyddwch fwy am y darnau arian a’r medalau rydym wedi’u cynhyrchu i 100 o wledydd ym mhedwar ban byd.
Gwneud Arian
Dysgwch am y prosesau manwl sydd ynghlwm â chynhyrchu darn arian.
Ochr arall y Royal Mint
Cymerwch olwg ar ein medalau milwrol, chwaraeon a choffaol rhyfeddol.
Ystyr darnau arian
Datgelwch lawer o’r gwahanol rolau y mae darnau arian yn eu chwarae yn ein bywydau pob dydd.
Darnau arian a’u casglu
Darganfyddwch fwy am gasglu darnau arian, hobi sy’n swyno pobl o bob oedran.
Siop Roddion
Mae ystod eang o ddarnau arian a nwyddau’r Royal Mint ar werth yn ein siop roddion. Oriau Agor y Siop – 9.30 – 17.30
Caffe
Mae ein caffe 90 sedd ar agor o 9.30am i 5pm ac yn gweini dewis o luniaeth poeth ac oer ar hyd y diwrnod i chi naill ai cyn neu ar ôl eich taith.