The Royal Mint Experience

Darganfyddwch ryfeddod annisgwyl y ceiniogau 

Mae pawb sy’n ymweld â The Royal Mint Experience yn gwneud hynny yn amodol ar yr amodau a thelerau canlynol:

  1. Gweithredir The Royal Mint Experience gan The Royal Mint (“y Gweithredwr”).
  2. Rhaid i ddeiliaid tocynnau gyrraedd The Royal Mint Experience bymtheng munud o leiaf cyn yr amser sydd wedi’i argraffu ar y tocyn.
  3. Ni roddir ad-daliad am docynnau a gellir ond newid neu ddisodli tocynnau yn ôl disgresiwn llwyr y Gweithredwr.
  4. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn 16 oed neu’n hŷn, drwy’r amser tra byddant yn The Royal Mint Experience.
  5. Mae’r Gweithredwr yn cadw’r hawl, yn ôl ei ddoethineb, i wrthod rhoi mynediad i unrhyw un neu anfon unrhyw un allan o’r Royal Mint Experience.
  6. Rhaid i bawb sy’n ymweld â’r Royal Mint Experience dalu am fynediad cyn mynd i mewn. Rhaid cadw’r tocynnau wrth law bob amser a’u cyflwyno i’w harchwilio os bydd unrhyw weithiwr neu asiant i’r Gweithredwr yn gofyn amdanynt.
  7. Er mwyn atal pobl rhag mynd ag arfau niweidiol neu eitemau peryglus i mewn i’r Royal Mint Experience, rhoddir mynediad i bob ymwelydd, ar yr amod eu bod yn rhoi caniatâd iddynt hwy ac/neu eu heiddo gael eu chwilio os gofynnir am wneud hynny.
  8. Mae gwaharddiad llym ar ysmygu yn holl ardaloedd y Royal Mint Experience (gan gynnwys e-sigaréts).
  9. Dim ond bwyd a diodydd a brynir yn The Royal Mint Experience ellir eu bwyta a’u hyfed yno.
  10. Lle mae rhywun wedi achosi difrod yn The Royal Mint Experience, bydd ef/hi yn talu am unrhyw gostau sy’n deillio o hynny.
  11. Mae gwaharddiad llym ar unrhyw anifeiliaid anwes neu anifeiliaid o unrhyw natur yn The Royal Mint Experience ac eithrio cŵn cymorth.
  12. Ni ellir ailwerthu unrhyw docyn.
  13. Bydd y Gweithredwr yn defnyddio ymdrechion rhesymol i sicrhau bod The Royal Mint Experience ar agor i’w ddefnyddio gan ymwelwyr yn ystod yr oriau agor arferol. Fodd bynnag, mae’r Gweithredwr yn cadw’r hawl, yn ôl ei ddoethineb, p’un ai am resymau diogelwch, methiant mecanyddol neu fel arall, a chan roi neu heb roi rhybudd, i gau’r Royal Mint Experience neu unrhyw ran ohono. Os bydd yn cau, bydd y Gweithredwr yn rhoi ad-daliad i unrhyw ymwelydd lle mae ei archeb wedi’i ganslo, am gost y tocyn y talwyd ymlaen llaw amdano, ond fel arall ni fydd ganddo unrhyw gyfrifoldeb o gwbl, gan gynnwys dim cyfrifoldeb am gostau teithio neu unrhyw gostau allan o boced eraill mewn perthynas â chau’r Royal Mint Experience yn rhannol neu’n gyfan, nac am ganslo unrhyw archeb.
  14. Ar wahân i gyfrifoldeb am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o esgeulustod y Gweithredwr neu The Royal Mint Limited (“TRM”), ni fydd y Gweithredwr, TRM na’u gweithwyr neu asiantau yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod, uniongyrchol neu anuniongyrchol, sut bynnag y codon nhw, gan gynnwys yn ddigyfyngiad unrhyw drallod, anghyfleustod neu bryder a achoswyd yn ystod unrhyw ymweliad a wnaed ac/neu yn sytod gadael The Royal Mint Experience.
  15. O bryd i’w gilydd, gallai’r Gweithredwr, TRM neu unrhyw bartïon awdurodedig eraill dynnu ffotograffau ac/neu recordio fideos ac/neu wneud gwaith monitro arall yn The Royal Mint Experience neu yn y cyffiniau, a allai gynnwys ymwelwyr. Trwy dderbyn yr amodau a’r telerau hyn, rydych chi’n cytuno y gall y Gweithredwr, TRM neu unrhyw barti awdurdodedig ddefnyddio’r delweddau am byth mewn unrhyw ddeunyddiau hyrwyddo, hysbysebu neu gyhoeddusrwydd mewn pa bynnag fformat. At hynny, rydych chi’n cytuno bod yr hawlfraint yn y deunyddiau hyn yn aros gyda’r Gweithredwr, TRM neu’r parti awdurdodedig tebyg (yn ôl y digwydd).
  16. Mae rhai mathau (ond nid pob math) o docynnau ar gael i’w prynu ar-lein trwy wefan TRM (www.royalmint.com/experience). Er mwyn osgoi amheuaeth, mae’r tocynnau a’r cynhyrchion hynny ar gael mewn symiau cyfyngedig a bydd pob pryniant yn amodol ar argaeledd.
  17. Rheolir yr amodau a thelerau hyn gan gyfraith Lloegr a byddant yn cael eu dadansoddi yn unol â’r gyfraith honno, a bydd unrhyw hawliad a ddygir dan yr amodau hyn yn destun awdurdodaeth unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.

Yn sgil gweithdrefnau diogelwch tân, rhaid i westeion gyda namau symudedd gysylltu â’r Royal Mint Experience ymlaen llaw i sicrhau na chaiff eu hymweliad ei darfu arno – 0333 241 2223.

Feefo logo