Cwestiynau Cyffredin
Beth yw’r Royal Mint Experience?
Atyniad i ymwelwyr yn Ne Cymru, rhyw 12 milltir i’r gogledd ddwyrain o Gaerdydd yw The Royal Mint Experience. Mae’n cynnwys profiad o’r ffatri, arddangosfa ryngweithiol, caffi 90 sedd, siop roddion a lle addysg/corfforaethol.
Pa mor hir fydd ymweliad yn ei gymryd?
Fel rheol, bydd ymweliad â’r Royal Mint Experiene yn para rhyw 2 awr. Mae profiad y ffatri yn un dan arweiniad, sy’n para 45 munud. Mae’r arddangosfa ryngweithiol yn un hunan-dywys ac mae’r parhad yn dibynnu ar gyflymder a lefel y diddordeb.
Beth mae fy nhocyn mynediad yn cynnwys?
Mae’ch tocyn yn cynnwys y profiad ffatri dan arweiniad a mynediad i’r arddangosfa.
A oes dewisiadau ychwanegol?
Ymhlith y pethau dewisol ychwanegol, sy’n destun ffi ychwanegol, mae:
Bathu’ch Darn Arian Eich Hun – y cyfle i fathu’ch darn arian eich hun i gofio am eich ymweliad.
Cyfle am Ffotograff – y cyfle i gael ffotograff wedi’ch amgylchynu â darnau arian.
Oes unrhyw ostyngiadau ar gael?
Mae gostyngiadau ar gael i fyfyrwyr, dinasyddion hŷn, gofalwyr a grwpiau o 15 a mwy sydd wedi archebu ymlaen llaw. Bydd angen i fyfyrwyr gyflwyno modd adnabod myfyriwr dilys. Gellir cadw un tocyn am ddim i ofalwr ar gyfer pob ymwelydd anabl sy’n talu; bydd angen prawf o’r hawl. Derbyniwn y canlynol:
- Llythyr/hysbysiad o hawl am Lwfans Byw i’r Anabl
- Llythyr gan eich meddyg
- Bathodyn parcio glas
- Trwydded Metro i’r Anabl, Trwydded Rhyddid Pobl Anabl Cynghorau Llundain
A ddylwn i archebu ymlaen llaw?
Argymhellwn yn gryf eich bod yn archebu’ch tocynnau ymlaen llaw ar-lein neu dros y ffôn. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn cael yr amser mynediad a’r dyddiad rydych chi eisiau.
Oes lle parcio?
Mae’r holl le parcio am ddim. Mae’r maes parcio nesaf at The Royal Mint Experience. Bodola 5 lle parcio i fysus. Lleolir y lleoedd parcio i’r anabl ym maes parcio The Royal Mint Experience.
Pa mor hawdd yw’r safle i gyrraedd?
Mae The Royal Mint Experience a phrofiad y ffatri ar lawr gwaelod.
Oes tipyn o gerdded?
Ceir rhywfaint o gerdded o’r maes parcio i’r Royal Mint Experience. Taith gerdded yw profiad y ffatri. Mae modd stopio am gyfnodau cyfyngedig yn yr arddangosfa ryngweithiol.
Ydy’r safle i gyd dan do?
Mae profiad y ffatri a’r arddangosfa dan do. Yr ardaloedd heb orchudd yw’r daith gerdded o’r maes parcio i’r Experience ac o’r Experience i’r ffatri.
Oes cymorth ar gael?
Cysylltwch â ni cyn eich ymweliad os oes angen cymorth arbennig arnoch a byddwn yn gwneud ein gorau glas i helpu. Ffoniwch +44 (0) 333 24 12 223 (Dydd Llun-Gwener 9:00am – 5:30pm)
Oes gostyngiadau i bobl gydag anableddau cofrestredig?
Oes, mae tocyn am ddim i ofalwyr ar gael i unrhyw gwsmer sydd angen cymorth hanfodol i ymweld. Gellir trefnu un tocyn am ddim i ofalwr am bob ymwelydd anabl sy’n talu, bydd angen prawf o hawl.
Derbyniwn y canlynol:
- Llythyr/hysbysiad o hawl am Lwfans Byw i’r Anabl
- Llythyr gan eich meddyg
- Bathodyn parcio glas
- Trwydded Metro i’r Anabl, Trwydded Rhyddid Pobl Anabl Cynghorau Llundain
Oes gennych beiriant ATM?
Yn anffodus, nid oes peiriant ATM ar y safle.
Pa gardiau ydych chi/nad ydych chi’n eu derbyn?
Derbynnir pob un o’r prif gardiau debyd/credyd – Visa / Maestro / MasterCard / American Express.
Oes dewisiadau di-glwten/heb laeth/llysieuol ar gael?
Bydd y staff yn y caffi’n ymdrechu i ddarparu ar gyfer unrhyw ofynion dietegol.
Allaf i fwyta neu yfed yn yr arddangosfa?
Ni chaniateir bwyd a diod ym mhrofiad y ffatri na’r arddangosfa ryngweithiol.
A allaf gynnal digwyddiad yn The Royal Mint Experience?
Gallwch gadw lle yn The Royal Mint Experience ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau corfforaethol os oes lle ar gael. Cysylltwch â ni ar +44 (0) 333 24 12 223.
A ganiateir ffotograffiaeth neu ffilmio yn The Royal Mint Experience?
Ni chaniateir ffotograffiaeth a ffilmio ym Mhrofiad y Ffatri. Bydd eich gwesteiwr yn cynghori ynghylch yr ardaloedd y caniateir tynnu ffotograffau ynddynt.