Te Prynhawn yn The Royal Mint

Download the leaflet here 

Mwynhewch Brofiad y Te Brenhinol

Mae te prynhawn yn draddodiad gwych ym Mhrydain. Arferai gael ei fwynhau gan y cylchoedd uchaf mewn cymdeithas, ac roedd yn ffefryn i’r Frenhines Fictoria yn benodol. Erbyn heddiw, mae’n dod â phobl at ei gilydd i fwynhau cwmni ei gilydd gyda rhai danteithion blasus. Nawr, gallwch fwynhau te prynhawn moethus mewn sefydliad Prydeinig gwych arall, gyda The Brenhinol y Royal Mint Experience.

royal tea

Archebwch eich Te Prynhawn yn The Royal Mint Experience

Mwynhewch de brynhawn mewn lleoliad i bobl bwysig iawn yn The Royal Mint. Gweinir ein Te Brenhinol unigryw mewn ystafell breifat, lle gall hyd at 15 o westeion fwynhau danteithion sawrus blasus a dewis o gacennau cwpan a theisennau gyda the i ddau am £30 yn unig (neu am £35 cewch fwynhau gwydraid o Prosecco hefyd).

Caniatewch 48 awr i gadarnhau’ch archeb. Hwyrach y bydd angen i archebion am lai na 15 gwestai rannu’r Ystafell De Brenhinol gyda gwesteion eraill.

Te Prynhawn i Ddau - £30 Gyda Gwydraid o Prosecco - £35

afternoon tea afternoon teatea

Feefo logo